Mae’r dudalen Cwestiynau Cyffredin hon yn darparu gwybodaeth am amrywiaeth eang o feysydd yn ymwneud ag ailddatblygu Sain Tathan.

Mae Cwestiynau Cyffredin pwrpasol hefyd wedi eu paratoi sy’n delio gyda chwestiynau a godwyd yn y ffurflenni adborth a gyflwynwyd yn dilyn yr arddangosfeydd cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2008. Mae’r cwestiynau hynny sy’n delio gyda materion o ddiddordeb cyffredinol wedi eu cynnwys isod. I weld copi llawn o’r Cwestiynau Cyffredin hyn cliciwch yma.

   
Y Cynllun
   
Ble mae’r lleoliad arfaethedig?
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan ym Mro Morgannwg ger pentref Sain Tathan. Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n berchen ar y safle ac ar hyn o bryd mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amryw o weithgareddau hyfforddi, masnach ac awyrofod. Mae Sain Tathan wastad wedi cael ei ddefnyddio i ddarparu hyfforddiant ar gyfer personél Y Weinyddiaeth Amddiffyn ers i’r Awyrlu Brenhinol ei gaffael yn 1938 ac mae wedi bod yn rhan annatod o’r gymuned am dros 70 o flynyddoedd.

Beth fydd yn cael ei ddarparu?
Bydd yr ail ddatblygiad yn bennaf yn cynnwys Coleg Technegol Amddiffyn Newydd gyda thai ac adnoddau cysylltiedig, a Pharc Busnes Awyrofod.

Gydag ymrwymiad i arloesi technolegol a dull dynamig o ddarparu hyfforddiant, bydd yr Academi Dechnegol Amddiffyn yn hyfforddi hyd at 4,500 o fyfyrwyr a hyfforddwyr ar y tro sy’n arbenigo mewn peirianneg awyrenneg a pheirianneg electrofecanyddol, a disgyblaethau cyfathrebu/TG. Bydd y Parc Busnes Awyrofod yn denu busnesau sydd ynghlwm a gwaith sifilaidd a milwrol a bydd yn cryfhau ymhellach hanes yr ardal mewn arbenigedd awyrofod.

Pwy fydd yn darparu’r prosiect?
Mae ail ddatblygu MOD Sain Tathan yn dod a nifer o bartïon ynghyd, yn bennaf Metrix, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r MOD.

Yn 2007, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn bod consortiwm Metrix wedi ei ddewis fel y Cynigydd a Ffafrir gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer cyflawni gwaith y Coleg Technegol Amddiffyn. Mae gan Metrix, cwmni pwrpas arbennig sy’n gyd-fenter 50/50 rhwng y grŵp ymchwil amddiffyn a thechnoleg QinetiQ a Sodexo sydd â phrofiad helaeth o gyflawni prosiectau o’r fath faint a graddfa ac o weithio gyda’r MOD.

Pam fod angen ail ddatblygu Sain Tathan?
Prynwyd safle Sain Tathan gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru ar y pryd, gyda golwg ar ddatblygu Parc Busnes Awyrofod. Ers hynny, mae’r safle wedi ei nodi fel safle posib ar gyfer y Coleg Technegol Amddiffyn sy’n cydategu’r Parc Busnes Awyrofod.

Ar hyn o bryd, mae hyfforddiant arbenigol mewn disgyblaethau awyrennaeth, peirianneg electrofecanyddol a chyfathrebu/TG yn digwydd mewn naw o wahanol safleoedd ar draws y DG gan gynhyrchu rhai o’r personél milwrol hyfforddedig gorau yn y byd. Bydd gweledigaeth Metrix yn gweld y Coleg Technegol Amddiffyn yn adeiladu ar y llwyddiant hwn trwy greu un lleoliad hyfforddi o statws rhyngwladol.

Bydd y Coleg Technegol Amddiffyn yn darparu hyfforddiant ar gyfer pob un o’r gwasanaethau; Y Fyddin, Y Llynges Frenhinol a’r Awyrlu Brenhinol, mewn un lleoliad am y tro cyntaf. Mae manteision mawr i hyn a bydd yn sicrhau bod personél milwrol y DG yn derbyn yr hyfforddiant orau sydd ar gael, a bydd dod a’r gwasanaethau i gyd at ei gilydd mewn un lleoliad yn golygu buddiannau pellach o ran effeithlonrwydd a dysgu ar y cyd.

Yn ogystal â hyn, mae safle presennol Y Weinyddiaeth Amddiffyn, East Camp yn benodol, yn cael ei danddefnyddio ac mae nifer o’r adeiladau ar derfyn eu bywyd economaidd neu angen buddsoddiad sylweddol.

Mae Sain Tathan hefyd yn ased strategol pwysig gyda rhedfa weithredol ac fel rhan o raglenni Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi’r sector awyrofod mae’n cael ei ddatblygu fel Parc Busnes Awyrofod. Mae’r diddordeb masnachol sydd gan gwmnïau awyrofod yn Sain Tathan yn parhau’n gryf. Ymhlith y tenantiaid newydd mae Britten Norman a Gwasanaethau Bond Air.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried datblygiad canolfan ragoriaeth awyrofod yn Sain Tathan yn hanfodol o ran cynnal clwstwr awyrofod presennol De a De-ddwyrain Cymru. Mae’r cynigion ar gyfer Parc Busnes Awyrofod yn manteisio ar weithlu medrus yn yr ardal a bydd yn cydategu’r Coleg Technegol Amddiffyn, a fydd yn ei thro yn dod a buddiannau economaidd ychwanegol hirdymor i Dde Cymru.

Pwy fydd yn ystyried y cais cynllunio ar gyfer ailddatblygiad Sain Tathan?
Cafodd y cais am gynllunio ar gyfer y Coleg Technegol Amddiffyn (CTA) a’r Parc Busnes Awyrofod (PBA) eu cyflwyno i Gyngor Bro Morgannwg ym mis Mai 2009.

Pryd fydd y datblygiad yn dechrau?
Cafodd y cais am gynllunio ar gyfer y Coleg Technegol Amddiffyn (CTA) a’r Parc Busnes Awyrofod (PBA) eu cyflwyno i Gyngor Bro Morgannwg ym mis Mai 2009.

Os caiff y ceisiadau am gynllunio eu cymeradwyo, ac yn dilyn cwblhau’r agweddau ariannol, gallai’r gwaith adeiladu ddechrau yn gynnar yn 2010, gyda’r Coleg Technegol Amddiffyn yn cael ei gwblhau erbyn 2014. Mae’r PBA yn brosiect tymor hir fydd yn cael ei ddatblygu dros gyfnod o 5 i 20 mlynedd. Bydd yn cael ei adeiladu mewn tri cham er mwyn gwneud newidiadau graddol i adeiladau sy’n bodoli eisoes er mwyn eu troi yn ofod awyrendy newydd neu wedi ei uwchraddio.

Faint fydd adeiladu’r Coleg Technegol Amddiffyn yn ei gostio?
Bydd datblygiad y Coleg Technegol Amddiffyn yn un o’r cytundebau Menter Cyllid Preifat (PFI) mwyaf hyd yn hyn ac yn werth rhyw £12 biliwn. Mae’r gost hon yn cynnwys y gwaith adeiladu a chostau parhaus rhedeg y Coleg. Bydd cost adeiladu’r ystâd yn Sain Tathan oddeutu £700m.

 
Ynglŷn Â’r Prosiect
     
Sut fydd y Coleg Technegol Amddiffyn yn edrych?
Bydd cynllun ac adeilad y Coleg Technegol o safon uchel. Bydd y cyn awyrendy DARA mawr hefyd yn rhan annatod, gan sicrhau bod yr adnodd hwn a adeiladwyd yn ddiweddar yn parhau i gael ei ddefnyddio’n briodol.

Beth fydd yn y Parc Busnes Awyrofod?
Bydd rhan o’r safle maes glanio presennol yn cael ei ail ddatblygu fel Parc Busnes Awyrofod, a fydd yn cynnig lle i nifer o fusnesau sydd yn ymwneud yn bennaf gyda gweithgareddau awyrofod masnachol a milwrol.

Bydd y Parc Busnes Awyrofod yn ategu at yr academi hyfforddi yn ogystal â bod yn ganolfan ragoriaeth, gan adeiladu ar arbenigedd awyrofod presennol de Cymru.

Sut fydd y broses adeiladu’n cael ei rheoli?
Bydd nifer o fesurau’n cael eu cyflwyno i sicrhau’r lleiafswm o aflonyddwch i’r gymuned leol. Mae’r rhain yn cynnwys lleihau unrhyw drafnidiaeth adeiladu yn y nos a dim ond defnyddio llwybrau penodol, wedi eu cytuno o flaen llaw i gyrraedd y safle.

 
Cyflogaeth A’r Economi
     
Pa gyfleoedd fydd yna am gyflogaeth leol?
Bydd y Coleg Technegol yn creu nifer o swyddi newydd. Bydd y cyfnod adeiladu hefyd yn cynhyrchu cyfleoedd pellach am gyflogaeth yn y gymuned leol ac ym Mro Morgannwg yn ehangach. Mae gan y Parc Busnes Awyrofod y potensial i greu rhyw 2,000 o swyddi eraill yn yr ardal ynghyd â chyfleoedd hyfforddi sylweddol trwy brifysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant lleol. Byddai swyddi a grëwyd yn y Coleg Technegol, ynghyd a phresenoldeb y rhai dan hyfforddiant, yn golygu hwb o sawl miliwn o bunnau i’r economi leol/ranbarthol yn flynyddol.

Sut all busnesau fod yn rhan o ail ddatblygiad Sain Tathan?
Mae tîm Sain Tathan eisoes mewn trafodaethau gyda nifer o gyflenwyr lleol a rhanbarthol ac fe fyddai’n bleser ganddynt glywed gan unrhyw fusnes sy’n teimlo ei fod yn gallu cynnig rhywbeth a fyddai o fudd yn ail ddatblygiad Sain Tathan – gweler manylion cysylltu isod.

Allwch chi ddarparu ffigwr sy’n rhoi amcan o faint o waith fydd yn cael ei greu gan y Coleg Technegol Amddiffyn a’r Parc Busnes Awyrofod?
Gan ei bod yn gymharol gynnar yn amserlen y prosiect, mae’n anodd iawn i ni roi manylion penodol o’r mathau a nifer o swyddi fydd yn cael eu creu gan y Coleg Technegol Amddiffyn – er enghraifft, nes ein bod mewn sefyllfa i ofyn, fyddwn ni ddim yn gwybod faint o bobl sydd eisoes yn gweithio i’r MOD fydd yn adleoli i Sain Tathan. Fodd bynnag, mae cyfanswm y ffigwr yn debygol o fod yn rhai miloedd yn cynnwys pobl sydd eisoes yn gweithio i’r MOD fydd yn trosglwyddo i Sain Tathan a swyddi wedi eu creu yn lleol. Yn ogystal, mae Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod gan y Parc Busnes Awyrofod y potensial i greu oddeutu 2,000 o swyddi.

 
Trafnidiaeth
     
Sut fydd trafnidiaeth yn cael ei reoli?
Roedd ceisiadau am gynllunio yn cynnwys cynigion ar gyfer mesurau ailosod a lliniaru ar gyfer traffig adeiladu fyddai’n cael ei greu gan y cynigion datblygu.

Sut mae darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei ystyried?
Bydd asesiad trafnidiaeth lawn yn cael ei gyflawni i asesu’r angen tebygol am unrhyw welliannau i’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau darpariaeth addas.

Oes yna bosibilrwydd o gael gorsaf drenau yn Sain Tathan?
Mae’r posibilrwydd o adfer gorsaf drenau Sain Tathan wedi cael ei ystyried. Fodd bynnag, gan fod y pellter o hen orsaf Sain Tathan i brif fynedfa arfaethedig y Coleg Technegol Amddiffyn yr un faint a’r pelter o orsaf Llanilltud Fawr i’r brif fynedfa arfaethedig, teimlir mai Llanilltud Fawr yw’r orsaf leol fydd yn gwasanaethu’r safle orau.

Yn ogystal, mae’n annhebygol y byddai gorsaf ychwanegol yn cael cefnogaeth Network Rail neu’r Cwmnïau Gweithredu Trenau heb gau gorsaf sydd eisoes yn bodoli ar y lein. Nid yw’r gorsafoedd yn Rhws na Llanilltud Fawr yn addas ar gyfer eu cau.

Er mwyn cefnogi’r cynnydd posib yn y nifer sy’n defnyddio’r trên i gyrraedd y Coleg Technegol Amddiffyn a’r Parc Busnes Awyrofod, mae cynlluniau’n bodoli i gynyddu amlder y trenau i ac o orsaf Llanilltud Fawr. Gellid cefnogi hyn gyda darpariaeth gwasanaeth bws gwennol rhwng gorsaf Llanilltud Fawr a’r safle.

Beth yw’r cynlluniau ar gyfer Cynllun Teithio Gwyrdd?
Cafodd Cynllun Teithio Gwyrdd hefyd ei ddatblygu a’i gyflwyno ym Mai 2009. Mae hwn yn cynnwys nifer o fesurau i leihau defnyddio ceir, fel annog personél ar y safle i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

 
Yr Amgylchedd
     

Beth sy’n cael ei wneud i gadw ecoleg leol y safle a’r ardal o amgylch?
Mae arolygon ecolegol yn cael eu cynnal i sefydlu pa rywogaethau a chynefinoedd sy’n bodoli ar safle Sain Tathan a’r holl ardaloedd oddi ar y safle lle gwneir newidiadau - megis ffyrdd newydd, piblinellau a meysydd hyfforddi.

Byddwn hefyd yn defnyddio cofnodion lleol i gyrchu gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli, i ddeall ecoleg yr ardal leol. Defnyddir y wybodaeth i gynorthwyo dyluniad y safle er mwyn iddo ystyried yr angen i osgoi unrhyw effeithiau ar fywyd gwyllt. Pan na fydd hyn yn bosibl, byddwn yn ystyried ffyrdd eraill o leihau’r effeithiau drwy er enghraifft, creu cynefinoedd eraill sy’n addas i ffwrdd o’r safle, yn lle unrhyw ardaloedd a fydd yn diflannu am byth. Crëwyd cyfres o byllau eisoes, ymlaen llaw o’r datblygiad, er mwyn caniatáu amser iddynt aeddfedu cyn i’r gwaith gychwyn ar y safle.

Pa fesurau eraill fydd yn cael eu cymryd i leihau’r effaith amgylcheddol?
Cafodd Datganiad Amgylcheddol ei baratoi a’i gyflwyno fel rhan o’r cais am gynllunio ar gyfer y datblygiad. Buom yn ymgynghori gyda sefydliadau amgylcheddol fel Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd wrth i ni ddatblygu’r cynllun a’r astudiaethau amgylcheddol.

Mae’r datblygwyr yn bwriadu adeiladu datblygiad o safon uchel, gyda thirlunio addas, i weddu i gymeriad y lleoliad ac a fydd yn cael ei arwain gan egwyddorion datblygiad cynaliadwy cyn belled â bod hynny’n bosib. Mae Asesiad Effeithiau Amgylcheddol cynhwysfawr yn cael ei wneud. Er mwyn helpu i gwrdd ag anghenion ynni mewn modd cynaliadwy, bydd y datblygiad arfaethedig yn cynnwys Canolfan Ynni fydd yn cynnwys generadur biomas a fydd yn cael ei danio’n rhannol gan sglodion coed, gan leihau allyriadau carbon y Coleg Technegol o rhwng 30 a 60 y cant y flwyddyn.

Yn ogystal â hyn, bydd cyfres o bolisïau amgylcheddol yn cael eu mabwysiadu, gydag un o’r cynlluniau ailgylchu a chompostio mwyaf cynhwysfawr mewn unrhyw ddatblygiad modern. Bydd system crynhoi dŵr yn cael ei gyflwyno ar y safle er mwyn rheoli dŵr ffo a bydd strategaeth lleihau gwastraff yn golygu y bydd rwbel o’r cyfnod chwalu yn cael ei ailddefnyddio fel defnydd adeiladu ac ar gyfer tirlunio’r safle.

A oes yna fywyd gwyllt sydd wedi ei ddiogelu ar y safle? Os felly, beth fydd yn cael ei wneud i’w adleoli’n ddiogel?
Mae yna boblogaethau o rywogaethau a warchodir ar y safle, er enghraifft madfallod cribog ac ystlumod. Byddai unrhyw adleoli yn cael ei wneud dan drwydded yn dilyn ymgynghoriad gyda’r awdurdod perthnasol, megis Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

 
Tai
     
A fydd tai newydd yn cael eu hadeiladu yn Sain Tathan ac a fydd cyfleusterau newydd yn cael eu darparu?
Darperir Lletyau i Unigolion ar y safle, yn bennaf ar gyfer hyfforddeion. Yn ogystal â hyn, bydd hyd at 550 o dai yn cael eu hadeiladu er mwyn darparu llety i deuluoedd yn ystod arhosiad personél. Bydd y cynllun o safon uchel ac fe fydd yn gweddu i’r ardal leol.

Bydd cyfleusterau manwerthu, meddygol, chwaraeon a hamdden yn cael eu darparu ar gyfer personél y safle er mwyn sicrhau nad oes bwrn ychwanegol yn cael ei osod ar wasanaethau sy’n bodoli eisoes o fewn y gymuned. Yn ogystal, rhagwelir y bydd rhai o’r cyfleusterau hyn ar gael i’r cyhoedd ar adegau penodol.

A fydd tai’n cael eu darparu i ymdopi gyda’r cynnydd ym mhoblogaeth personél sydd ddim yn gweithio i’r MOD fydd yn symud i weithio i’r ardal?
Ar hyn o bryd nid oes cynlluniau penodol i ddarparu tai ychwanegol ar gyfer personél sydd ddim yn gweithio i’r MOD a fydd yn gweithio yn y Coleg Technegol Amddiffyn neu’r Parc Busnes Awyrofod. Bydd yr angen am unrhyw ddarpariaeth ychwanegol yn cael ei asesu gan Gyngor Bro Morgannwg fel rhan o’r broses datblygu cynllunio arferol. Yn ogystal, mae Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal astudiaethau blynyddol i sicrhau bod yna gyflenwad pum mlynedd parhaus o dai.

 
Ymgynghoriad
     
Ydi barn y cyhoedd yn cyfrif o ddifri?
Mae’r tîm prosiect wedi bod yn ymroddedig i raglen o ymgynghoriad go iawn o’r cychwyn ac wedi gwahodd y gymuned i roi adborth wrth i’r cynlluniau ymddangos. Mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd wedi eu hystyried yn llawn ac yn y pen draw wedi dylanwadu ar y cynlluniau terfynol. Am fanylion llawn y rhaglen ymgynghori, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Beth sy’n digwydd nesaf?
Cafodd y cais am gynllunio ar gyfer y Coleg Technegol Amddiffyn a’r Parc Busnes Awyrofod eu cyflwyno i Gyngor Bro Morgannwg ym mis Mai 2009. Fel rhan o’r broses statudol bydd y Cyngor yn ymgymryd ag astudiaeth 16 wythnos gynhwysfawr o’r cynigion yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus pellach ble y gwahoddir y gymuned leol a rhanddeiliaid i roi adborth yn uniongyrchol i’r Cyngor ar y cynlluniau. Disgwylir penderfyniad ar y ceisiadau am gynllunio, fydd yn cael ei wneud gan Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor, yn ystod mis Medi 09.

Os caiff y ceisiadau am gynllunio eu cymeradwyo, ac yn dilyn cwblhau’r agweddau ariannol, gallai’r gwaith adeiladu ddechrau yn gynnar yn 2010, gyda’r Coleg Technegol Amddiffyn yn cael ei gwblhau erbyn 2014. Mae’r PBA yn brosiect tymor hir fydd yn cael ei ddatblygu dros gyfnod o 5 i 20 mlynedd. Bydd yn cael ei adeiladu mewn tri cham er mwyn gwneud newidiadau graddol i adeiladau sy’n bodoli eisoes er mwyn eu troi yn ofod awyrendy newydd neu wedi ei uwchraddio.

Sut all y cyhoedd gymryd rhan?
Yn dilyn cyflwyno’r ceisiadau am gynllunio ym mis Mai 2009, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd y gymuned leol a rhanddeiliaid i gynnig adborth ar y cynlluniau yn uniongyrchol i’r Cyngor. Gweler gwefan y Cyngor am fwy o fanylion.

 
     
Os hoffech anfon eich sylwadau am unrhyw agwedd ar waith Sain Tathan, cliciwch yma