Mae Y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) Sain Tathan, ym Mro Morgannwg, wedi bod yn rhan annatod o’r gymuned leol am dros 70 mlynedd. Yn unol â’r Adolygiad Hyfforddi Amddiffyn (DTR), mae Sain Tathan wedi ei ddewis i fod yn gartref i Goleg Technegol Amddiffyn Newydd a Pharc Busnes Awyrofod cysylltiedig. Gyda’i gilydd maent yn cynrychioli un o’r prosiectau mwyaf sylweddol a welwyd erioed yn Ne Cymru.

Bydd y Coleg Technegol Amddiffyn newydd o statws rhyngwladol a bydd yn sicrhau bod personél milwrol yn parhau i dderbyn yr hyfforddiant gorau posib. Bydd hyfforddiant technegol yn cael ei gynnig mewn nifer o sgiliau arbenigol yn cynnwys peirianneg fecanyddol ac awyrennaeth, a disgyblaethau cyfathrebu/TG.

Bydd y datblygiad ychwanegol o Barc Busnes Awyrofod yn pwysleisio ymhellach etifeddiaeth diwydiant awyrofod De Cymru a bydd yn creu cyfleoedd cyflogaeth sylweddol, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, ac yn denu buddsoddiad pellach i’r ardal.

Mae cynnwys y gymuned yn ail ddatblygiad MOD Sain Tathan wedi bod yn flaenoriaeth o’r cychwyn. Trwy gydol y rhaglen ymgynghori mae’r tîm prosiect wedi gwrando ar ac wedi ystyried yr holl syniadau a roddwyd ger ei fron a, ble’n bosib, wedi darparu atebion i gwestiynau penodol. Bu awgrymiadau’r gymuned yn help yn y pen draw i lunio’r cynlluniau terfynol a gyflwynwyd i Gyngor Bro Morgannwg ym mis Mai 2009.

cliciwch ar y dolenni isod i gael
y newyddion diweddaraf am
Sain Tathan
  Ceisiadau am Gynllunio wedi eu cyflwyno i Gyngor Bro Morgannwg
  Cwestiynau ac Atebion o’r Gweithdai a Grwpiau Diddordeb ar gael i’w lawr lwytho
  Defnyddiau arddangosfa Cam Dau
ar gael i’w lawr lwytho
Os hoffech anfon eich sylwadau am unrhyw agwedd ar waith Sain Tathan, cliciwch yma