Mae ail ddatblygu Y Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan yn dod a nifer o bartïon ynghyd, yn bennaf Metrix, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD).
Yn 2007, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn bod consortiwm Metrix wedi ei ddewis fel y Cynigydd a Ffafrir gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer cyflawni gwaith y Coleg Technegol Amddiffyn. Mae Metrix yn gwmni pwrpas arbennig sy’n gyd-fenter 50/50 rhwng y grwp ymchwil amddiffyn a thechnoleg QinetiQ a Sodexo, sydd â phrofiad helaeth o gyflawni prosiectau o’r fath faint a graddfa ac o weithio fel partner i’r MoD.
Cadarnhawyd mai Sodexo oedd y partner cyd-fenter 50/50 ym mis Chwefror 2009 ar ôl bod yn aelod o gonsortiwm Metrix ers cychwyn y prosiect.
Cefndir a Hanes
Agorodd Sain Tathan fel canolfan hyfforddiant yn 1938 ac o’r cyfnod hwnnw hyd heddiw mae wedi bod yn gartref i Ysgol Hyfforddiant Technegol Rhif 4 (No 4 School of Technical Training). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd rhyw 5,000 o beirianwyr awyr ar safle Sain Tathan a rhwng 1941 a 1951 cafodd rhyw 22,000 o beirianwyr awyr Prydain, y Gymanwlad a’r Cynghreiriaid eu hyfforddi yn Sain Tathan.
O ganol y 50au i ganol y 60au roedd Ysgol Newydd Ddyfodiaid i Fechgyn yn gweithredu yn Sain Tathan yn dysgu amrywiaeth eang o sgiliau ymarferol i fechgyn ifanc yn cynnwys trafnidiaeth fecanyddol, weldio, gwaith coed a drafftio. Erbyn i’r ysgol gael ei hail leoli yn 1965 roedd rhyw 7,000 o fechgyn ifanc wedi cwblhau eu hyfforddiant yn Sain Tathan.
Sefydlwyd Ysgol Hyfforddi Gyrwyr yn y 1970au ac fe hyfforddwyd rhyw 4,000 o bersonél mewn amryw o sgiliau, yn cynnwys gyrru ar y draffordd a gyrru yn y nos, cyn i’r ysgol gau yn 1993. Yn 1999, ffurfiwyd yr Asiantaeth Atgyweirio Awyrennau Amddiffyn (DARA) er mwyn darparu siop un stop ar gyfer cynnal a chadw awyrennau trwy gyfuno atgyweirio awyrennau’r Llu Awyr Brenhinol a’r Llynges Frenhinol.
Mae gwaith cynnal a chadw awyrennau wedi ei gyflawni yn Sain Tathan gan rai o beirianwyr a thechnegwyr mwyaf cymwys y byd. Maent wedi atgyweirio awyrennau milwrol, fel y Tornado a’r Sea Harrier a, pheiriannau aero, yn ogystal â darparu arbenigedd cynhyrchu.
Yr Angen am Ail Ddatblygiad
Ar hyn o bryd, mae hyfforddiant arbenigol mewn disgyblaethau awyrennaeth, electrofecanyddol a chyfathrebu/TG yn digwydd mewn naw o wahanol safleoedd ar draws y DG gan gynhyrchu rhai o’r personél milwrol hyfforddedig gorau yn y byd.
Fodd bynnag, bydd y Coleg Technegol Amddiffyn yn darparu hyfforddiant ar gyfer pob un o’r gwasanaethau; Y Fyddin, Y Llynges Frenhinol a’r Awyrlu Brenhinol, mewn un lleoliad am y tro cyntaf. Mae manteision mawr i hyn a bydd yn sicrhau bod personél milwrol y DG yn derbyn yr hyfforddiant orau sydd ar gael, a bydd dod a’r gwasanaethau i gyd at ei gilydd mewn un lleoliad yn golygu buddiannau pellach o ran effeithlonrwydd a dysgu ar y cyd.
Bydd datblygiad y Coleg Technegol newydd yn trawsnewid y safle presennol sydd, yn arbennig yn achos East Camp, yn cael ei danddefnyddio ac mae nifer o’r adeiladau ar derfyn eu bywyd economaidd neu angen buddsoddiad sylweddol.
Bydd y Parc Busnes Awyrofod yn ategu at yr academi hyfforddi yn ogystal â bod yn ganolfan ar gyfer rhagoriaeth yn ei rinwedd ei hun. Bydd yn adeiladu ar arbenigedd awyrofod busnesau sydd eisoes yn gweithio yn Ne Cymru, fel GE Aircraft Engine Services a General Dynamics, ac yn dod a swyddi newydd i’r ardal.
Coleg Technegol Amddiffyn
Bydd datblygiad y Coleg Technegol Amddiffyn yn un o’r cytundebau Menter Cyllid Preifat (PFI) mwyaf hyd yn hyn ac yn werth rhyw £12 biliwn. Gydag ymrwymiad i arloesi technolegol a dull dynamig o ddarparu hyfforddiant, bydd y Coleg Technegol Amddiffyn yn hyfforddi rhyw 4, 500 o fyfyrwyr a hyfforddwyr ar y tro yn arbenigo mewn peirianneg awyrenneg a pheirianneg electrofecanyddol, a disgyblaethau cyfathrebu/TG.
Gan ddarparu’r amgylchedd ddysgu gweledol gorau posib i bersonél, bydd ystyriaeth ofalus yn cael ei roi i olwg y Coleg Technegol trwy greu adeiladau hynod a thirlunio datblygiad gyda chymeriad.
Bydd y Coleg Technegol wedi ei lleoli o amgylch hen awyrendy DARA, gan sicrhau bod y cyfleuster hwn a adeiladwyd yn ddiweddar yn parhau i gael ei ddefnyddio’n briodol.
Bydd y myfyrwyr a fydd yn mynychu’r academi yn bobl broffesiynol ifanc a phrofiadol, yn ymroddedig i ddatblygu siliau mewn sawl disgyblaeth arbenigol. Golyga hyn y byddant wedi eu lleoli yn Sain Tathan yn hir dymor, a bydd llawer ohonynt yn dod i ystyried Sain Tathan yn gartref iddynt yn ystod y cyfnod hwn.
Parc Busnes Awyrofod
Mae’r cynigion am ail ddatblygu Sain Tathan yn cynnwys creu Parc Busnes Awyrofod newydd ar ran o safle presennol y llain glanio, gan fanteisio ar y rhedfa weithredol ar y safle a’r diddordeb masnachol cryf mewn gwneud defnydd o’r cyfleusterau hyn.
Mae De Cymru eisoes wedi sefydlu ei hun fel ardal o arbenigedd yn y diwydiant awyrofod trwy fusnesau sydd yma eisoes fel British Airways Avionics and Maintenance, a GE Aircraft Engine. Byddai’r Parc Busnes Awyrofod felly’n adeiladu ar y maes sgiliau hwn. Cynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y Parc Busnes yw cynnig yr adnoddau a’r seilwaith sydd ei angen ar gynhyrchwyr, cyflenwyr, darparwyr gwasanaeth a hyfforddwyr yn y sector awyrennau gyda phwyslais arbennig ar gynnal a chadw a thrwsio.
Byddai’r adnoddau hyn wedi eu lleoli i’r Gorllewin o’r rhedfa groes, ar ochr Ogleddol y brif redfa, ac i’r De o’r brif redfa. Bydd busnesau sy’n ymwneud a gwaith sifilaidd a milwrol mewn siediau awyrennau mawr fydd yn cynnwys cymysgedd o adeiladau newydd a siediau sy’n bodoli eisoes wedi eu hail ddatblygu.
Buddiannau i’r Cymunedau Lleol
a Rhanbarthol
Yn sgil ehangder profiad rhai o’r cwmnïau hynny sy’n rhan o dîm datblygu Sain Tathan, mae gwerthfawrogiad mawr o bwysigrwydd cynnal a gwella bywiogrwydd y gymuned a’r economi leol fel rhan annatod o gyflawni ail ddatblygiad Sain Tathan.
Bydd y Coleg Technegol yn golygu creu nifer o swyddi newydd, tra gallai’r Parc Busnes Awyrofod greu rhyw 2,000 arall o swyddi ynghyd a chyfleoedd hyfforddi newydd cyffrous ar gyfer y busnesau awyrofod ar draws Cymru. Bydd y ddwy elfen o’r prosiect yn darparu cyfleoedd sylweddol i gyflenwyr lleol yn ystod y camau adeiladu a gweithredu.
Bydd swyddi sy’n cael eu creu fel rhan o ail ddatblygu Sain Tathan, ynghyd â’r hyfforddeion, yn golygu hwb blynyddol o sawl miliwn o bunnau i’r economi leol. Unwaith iddo gael ei gwblhau, bydd Sain Tathan yn atgyfnerthu enw da De Cymru fel canolfan o ragoriaeth ar gyfer arbenigedd awyrofod, ac yn helpu i ddenu mwy o fuddsoddiad i’r ardal.
Y Cyd-destun Cenedlaethol
Mae Sain Tathan wedi ei nodi’n rhan o Ardal o Gyfle Strategol o fewn Cynllun Gofodol Cymru ac fel anheddiad allweddol yn y Strategaeth Ddewisedig Ddrafft ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Bro Morgannwg.
Mae Cynllun Gofodol Cymru’n nodi gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cymru. Yn y Cynllun Gofodol, lleolir Sain Tathan o fewn y De Ddwyrain – Rhanbarth Rhwydwaith y Brifddinas. Dyma yw gweledigaeth gyffredinol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer yr ardal:
“Ardal flaengar gyda sgiliau yn cynnig ansawdd byw uchel – rhyngwladol ond eto’n nodedig Gymreig. Bydd yn cystadlu’n rhyngwladol trwy amlygu ei hun yn fyd eang trwy gysylltiadau cryfach rhwng y Cymoedd a’r arfordir a gyda’r DG ac Ewrop, gan helpu i gyflymu ffyniant o fewn yr ardal a dod a buddiannau i rannau eraill o Gymru.”
Ceir mwy o wybodaeth yng Nghrynodeb Datblygiad Sain Tathan sydd ar gael ar wefan Cyngor Bro Morgannwg.
Os hoffech anfon eich sylwadau am unrhyw agwedd ar waith Sain Tathan, cliciwch yma