Gydag ymrwymiad i arloesi technolegol a dull dynamig o ddarparu hyfforddiant, bydd y Coleg Technegol Amddiffyn yn hyfforddi rhyw 4, 500 o fyfyrwyr a hyfforddwyr ar y tro yn arbenigo mewn peirianneg awyrenneg a pheirianneg electrofecanyddol, a disgyblaethau cyfathrebu/TG.
Gan ddarparu’r amgylchedd ddysgu gweledol gorau posib i bersonél, bydd ystyriaeth ofalus yn cael ei roi i olwg y Coleg Technegol trwy greu adeiladau hynod a thirlunio datblygiad gyda chymeriad.
Bydd y Coleg Technegol wedi ei lleoli o amgylch hen awyrendy DARA, gan sicrhau bod y cyfleuster hwn a adeiladwyd yn ddiweddar yn parhau i gael ei ddefnyddio’n briodol.
Bydd y myfyrwyr a fydd yn mynychu’r academi yn bobl broffesiynol ifanc a phrofiadol, yn ymroddedig i ddatblygu siliau mewn sawl disgyblaeth arbenigol. Golyga hyn y byddant wedi eu lleoli yn Sain Tathan yn hir dymor, a bydd llawer ohonynt yn dod i ystyried Sain Tathan yn gartref iddynt yn ystod y cyfnod hwn.
Parc Busnes Awyrofod
Mae’r cynigion am ail ddatblygu Sain Tathan yn cynnwys creu Parc Busnes Awyrofod newydd ar ran o safle presennol y llain glanio.
Mae De Cymru eisoes wedi sefydlu ei hun fel ardal o arbenigedd yn y diwydiant awyrofod trwy fusnesau sydd yma eisoes fel British Airways Avionics and Maintenance, a GE Aircraft Engine. Byddai’r Parc Busnes Awyrofod felly’n adeiladu ar y maes sgiliau hwn. Cynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y parc busnes yw cynnig yr adnoddau a’r seilwaith sydd ei angen ar gynhyrchwyr, cyflenwyr, darparwyr gwasanaeth a hyfforddwyr yn y sector awyrennau gyda phwyslais arbennig ar gynnal a chadw a thrwsio.
Byddai’r adnoddau hyn wedi eu lleoli i’r gorllewin o’r rhedfa groes, ar ochr ogleddol y brif redfa, ac i’r de o’r brif redfa. Bydd busnesau sy’n ymwneud a gwaith sifilaidd a milwrol mewn siediau awyrennau mawr fydd yn cynnwys cymysgedd o adeiladau newydd a siediau sy’n bodoli eisoes wedi eu hail ddatblygu.
Tai
Bydd Llety i'r Sengl, yn bennaf ar gyfer hyfforddeion, yn cael ei ddarparu ar y safle. Yn ogystal, bydd hyd at 550 o dai yn cael eu hadeiladu er mwyn darparu llety ar gyfer personél a’u teuluoedd yn ystod eu harhosiad.
Bydd y cynllun o safon uchel ac yn gweddu i’r amgylchfyd. Yn unol â’r Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy, strategaeth Llywodraeth y DG er mwyn annog safon genedlaethol newydd ar gyfer cynllunio ac adeiladu tai newydd yn gynaliadwy - bydd Metrix yn cynnwys y mesurau canlynol ble’n bosib:
•
Gwell effeithiolrwydd ynni;
•
Defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy;
•
Defnyddiau adeiladu y gellir eu hailgylchu;
•
Ailgylchu gwastraff adeiladu; a
•
Systemau draenio trefol cynaliadwy (SUD).
Cyfleusterau Cefnogi
Bydd cyfleusterau manwerthu, meddygol, chwaraeon a hamdden yn cael eu darparu ar gyfer personél y safle er mwyn sicrhau nad oes bwrn ychwanegol yn cael ei osod ar wasanaethau sy’n bodoli eisoes o fewn y gymuned.
Bydd cyfleusterau arfaethedig yn cynnwys caeau chwaraeon, cyrtiau tenis, trac rhedeg, meithrinfa, amgueddfa filwrol, eglwys rhyng-enwadol a phwll nofio. Bydd nifer o’r cyfleusterau hyn ar gael at ddefnydd y cyhoedd ar adegau penodol.
Yr Amgylchedd
Gan ddefnyddio egwyddorion datblygiad cynaliadwy ble’n bosib, mae Metrix yn bwriadu adeiladu datblygiad o safon uchel gyda thirlunio addas, yn gweddu i gymeriad y lleoliad. I’r diben hwn, mae’n ymgymryd ag Asesiad Effaith ar yr Amgylchedd cynhwysfawr.
Er mwyn helpu i gwrdd ag anghenion ynni mewn modd cynaliadwy, bydd y datblygiad arfaethedig yn cynnwys Canolfan Ynni fydd yn cynnwys generadur biomas a fydd yn cael ei danio’n rhannol gan sglodion coed, gan leihau allyriadau carbon y Coleg Technegol o rhwng 30 a 60 y cant y flwyddyn. Yn ogystal â hyn, bydd cyfres o bolisïau amgylcheddol yn cael eu mabwysiadu, gydag un o’r cynlluniau ailgylchu a chompostio mwyaf cynhwysfawr mewn unrhyw ddatblygiad modern. Bydd system crynhoi dŵr yn cael ei gyflwyno ar y safle er mwyn rheoli dŵr ffo a bydd strategaeth lleihau gwastraff yn golygu y bydd rwbel o’r cyfnod chwalu yn cael ei ailddefnyddio fel defnydd adeiladu ac ar gyfer tirlunio’r safle.
Bydd cyfres gynhwysfawr o fesurau yn cael eu gweithredu er mwyn sicrhau’r effaith lleiaf ar fywyd gwyllt a bydd cynefinoedd newydd o’r safon uchaf yn cael eu darparu. Mae cyfres o byllau dŵr newydd eisoes wedi eu creu sy’n lloches ar gyfer bywyd gwyllt a chynefin delfrydol ar gyfer y boblogaeth o fadfallod dŵr cribog sydd yno eisoes.
Trafnidiaeth a Mynediad
Mae Sain Tathan mewn lleoliad arbennig o dda ym Mro Morgannwg, rhwng Y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr. Rhyw 20km o’r M4, i’r dwyrain o Gaerdydd, gellir cyrraedd Sain Tathan ar gyffordd 33 (Dwyrain) yr M4 a chyffyrdd 37 i 35 (Gorllewin) ar hyd y ffordd ddeuol A4232 mor bell â Chroes Cwrlwys ac yna ar hyd y ffyrdd A4050, A4226, a B4265. Mae’r ffordd yma hefyd yn mynd o Sain Tathan i Gaerdydd.
Wrth ddarparu ail ddatblygiad arfaethedig Sain Tathan, bydd asesiad trafnidiaeth gynhwysfawr yn sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei roi i sut y bydd y datblygiad yn effeithio ar y ffyrdd lleol a’r rhwydwaith trafnidiaeth sy’n bodoli eisoes.
Bydd gwaith gwella, yn cynnwys mynedfeydd newydd a gwelliannau i Ffordd Eglwys Brewis, Cyffordd Sain Tathan, ffordd y B4265 yn Gileston/Old Mill a chylchfan Waycock Cross yn helpu i sicrhau bod y rhwydwaith ffordd yn gallu ymdopi gyda chynnydd mewn traffig yn ystod cyfnodau prysur. Mae ceisiadau am gynllunio yn cynnwys cynigion ar gyfer mesurau ailosod a lliniaru ar gyfer traffig adeiladu sy’n cael ei greu gan y cynigion datblygu.
Bydd Cynllun Teithio Gwyrdd yn cael ei gyflwyno yn amlinellu mesurau i annog pobl sy’n cyrraedd a gadael y safle i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu rannu car. Rhagwelir y bydd y mwyafrif o’r personél ar y safle yn cerdded rhwng adeiladau a chyfleusterau. Bydd cerbydau’n aros yn bennaf ar berimedr y safle mewn meysydd parcio, felly bydd cerddwyr a beicwyr yn gallu cyrraedd y mannau craidd a’r “asgwrn cefn gwyrdd” yn ddiogel.
Bydd y brif fynedfa i’r Coleg Technegol Amddiffyn a’r Parc Busnes Awyrofod trwy ffordd a chyffordd newydd a fydd yn cael eu hadeiladu oddi ar y B4265. Bydd hyn yn sicrhau bod traffig i ac o’r safle yn cael mynediad uniongyrchol ac ar wahân i’r brif ffordd, gan ddarparu ffordd osgoi i’r anheddau agos Llanilltud Fawr a Sain Tathan felly ni fydd y rhai sy’n defnyddio’r ffyrdd eisoes yn cael eu heffeithio’n ormodol.
Bydd y ffordd hon hefyd yn gwella mynediad i Sain Tathan o draffordd yr M4. Fel sy’n ofynnol ym mhob safle milwrol, bydd allanfa argyfwng yn aros ar ochr ddwyreiniol y safle ble mae mynediad i East Camp eisoes yn bodoli.
Etifeddiaeth bensaernïol
a hanesyddol
Mae yna Henebion Cofrestredig ger ffin safle Sain Tathan ond ni fydd y cynigion yn effeithio'n uniongyrchol arnynt. Yn amodol ar ganiatâd y tirfeddianwyr, mae cynigion y Coleg Technegol yn cynnwys ymgorffori ac adfer eglwys segur St Brewis, ar ochr ddeheuol Ffordd Eglwys Brewis. Bydd y cynigion yn diogelu cadwraeth ac adferiad yr adeilad hwn yn y tymor hir a'i leoliad fel rhan o'r academi. Yn ogystal â hyn, byddwn yn cwblhau astudiaethau pellach ar y safle i benderfynu p'un ai fod yna fannau pellach sydd o ddiddordeb archeolegol, a byddwn yn edrych yn benodol ar adeiladau milwrol ac amddiffynfeydd hanesyddol y maes awyr fel rhan ohono.
Seilwaith Gwasanaethau
Oherwydd oed a chyflwr y seilwaith gwasanaethau presennol ar y safle, bydd angen archwilio adnewyddu’r holl system nwy mewnol, cyflenwad dŵr a’r system ddraenio.
Amserlen y prosiect
Cafodd y ceisiadau am gynllunio ar gyfer y Coleg Technegol Amddiffyn a’r Parc Busnes Awyrofod eu cyflwyno i Gyngor Bro Morgannwg ym mis Mai 2009. Am fwy o wybodaeth ar broses ymgynghori statudol y Cyngor cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Os caiff y cais am gynllunio ei gymeradwyo, ac yn dilyn cwblhau’r agweddau ariannol, gallai’r gwaith adeiladu ddechrau yn gynnar yn 2010 gyda chwblhad yr Academi Dechnegol erbyn 2014. Mae’r PBA yn brosiect tymor hir a fydd yn cael ei ddatblygu dros gyfnod o 5 i 20 mlynedd. Bydd yn cael ei adeiladu mewn tri cham er mwyn gwneud newidiadau graddol i adeiladau sy’n bodoli eisoes er mwyn eu troi yn ofod awyrendy newydd neu wedi ei uwchraddio.
Os hoffech anfon eich sylwadau am unrhyw agwedd ar waith Sain Tathan, cliciwch yma