Ymgynghoriad Cyhoeddus
   
Mae’r tîm prosiect wedi bod yn ymroddedig i raglen barhaus o ymgynghori a chyfathrebu gyda’r gymuned leol o’r cychwyn, yn dechrau yn 2006 pan gafwyd ymgynghoriad eang gan Gyngor Bro Morgannwg, mewn partneriaeth gyda Metrix, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ar Friff Datblygu Sain Tathan. Roedd hwn yn cynnwys arddangosfa gyhoeddus ac fe helpodd i lunio’r cynlluniau drafft cychwynnol ar gyfer ailddatblygiad Sain Tathan.

Ers hynny, mae dau rownd arall o arddangosfeydd a chyfres o weithdai a grwpiau diddordeb wedi eu cynnal oedd yn gwahodd y gymuned i roi adborth ar y cynlluniau wrth iddynt ymddangos. Yn ogystal â hyn dosbarthwyd cylchlythyrau, sefydlwyd gwefan sy’n cael ei diweddaru’n gyson ac fe hyrwyddwyd llinell ffon a chyfeiriad e-bost pwrpasol ar gyfer yr ymgynghoriad er mwyn ei gwneud hi mor hawdd â phosib i bobl wneud sylwadau a holi cwestiynau.

Am fwy o fanylion ynglŷn â phob cam o’r rhaglen ymgynghori ac i wybod beth sy’n digwydd nesaf, gweler isod.

 
Amserlen yr Ymgynghoriad
     
Caiff yr ymgynghoriad gyda’r cyhoedd ei gyflawni mewn tri cham fel y nodir isod:

Cam Un

15 – 18 Gorffennaf 2008
Arddangosfeydd Cyhoeddus yn cael eu cynnal yn Sain Tathan, Y Bontfaen a Llanilltud Fawr.

10 Medi 2008
Arddangosfa gyhoeddus yn cael ei chynnal yn Llanmaes

4 a 9 Rhagfyr 2008
Gweithdai Cyhoeddus yn cael eu cynnal yn Sain Tathan yn canolbwyntio ar Adnoddau Cymunedol a Thrafnidiaeth    

Chwefror/Mawrth 2009
Cynhaliwyd Grwpiau Diddordeb Cyhoeddus yn Sain Tathan yn canolbwyntio ar yr Amgylchedd a Lles Cymunedol.

Cam Dau

Mawrth/Ebrill 2009
Cynhaliwyd ail gyfres o arddangosfeydd cyhoeddus yn yr ardal leol er mwyn i bawb gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y prosiect, amlygu’r newidiadau allweddol sydd wedi eu gwneud i’r prif gynllun ers y rownd ddiwethaf o arddangosfeydd a dangos sut mae barn y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill wedi ei ystyried.

Cyngor Bro Morgannwg – Ymgynghoriad Statudol

Cafodd y cais am gynllunio ar gyfer y Coleg Technegol Amddiffyn a’r Parc Busnes Awyrofod eu cyflwyno i Gyngor Bro Morgannwg ym mis Mai 2009. Fel rhan o’r broses statudol bydd rhaglen o ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei chynnal gan Gyngor Bro Morgannwg.

Cyngor Bro Morgannwg – Ymgynghoriad Statudol

Haf 2009 Cafodd y cais am gynllunio ar gyfer y Coleg Technegol Amddiffyn a’r Parc Busnes Awyrofod eu cyflwyno i Gyngor Bro Morgannwg ym mis Mai 2009. Fel rhan o’r broses statudol bydd rhaglen o ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei chynnal gan Gyngor Bro Morgannwg.

   
Y diweddaraf ar Cam Un
     
Arddangosfeydd Cyhoeddus – Gorffennaf 2008

Cynhaliwyd yr arddangosfeydd cyhoeddus cyntaf dros bum niwrnod ym mis Gorffennaf.  Yn ystod yr wythnos mynychodd rhyw 300 o aelodau’r cyhoedd arddangosfeydd yn Sain Tathan, Y Bontfaen a Llanilltud Fawr.  Ar Fedi 10fed, cynhaliwyd arddangosfa gyhoeddus arall yn Llanfaes ar gais Cyngor Cymuned Llanmaes.

Roedd cynrychiolwyr o Metrix, Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr MOD ac ymgynghorwyr arbenigol eraill ar gael i ateb cwestiynau ac roedd defnyddiau’r arddangosfa’n darparu gwybodaeth cefndir.  Roedd yr arddangosfa hefyd yn rhoi cyfle cyntaf i’r cyhoedd weld a gwneud sylwadau ar y cynllun drafft diweddaraf ar gyfer y safle.    

Roedd tîm Sain Tathan wrth eu bodd gyda’r nifer o bobl a fynychodd yr arddangosfeydd ac yn arbennig o falch i glywed bod y mwyafrif llethol o bobl yn awyddus i weld y prosiect yn mynd yn ei flaen, ac yn cydnabod y buddiannau a fydd yn dod i’r rhanbarth o ganlyniad i’r Coleg Technegol Amddiffyn a’r Parc Busnes Awyrofod.

Yn ystod, ac yn dilyn yr arddangosfeydd, cymerodd nifer o bobl amser i ddatgan eu barn ar y cynlluniau drafft presennol trwy lenwi ffurflenni adborth.  Mae’r adborth wedi ei ddadansoddi a, ble’n bosib, bydd yn cael ei ystyried wrth i’r cynlluniau ar gyfer y safle symud ymlaen. I lawr lwytho copi o’r dadansoddiad llawn cliciwch yma. Mae copiau caled o’r dadansoddiad hefyd ar gael, i holi am gopi cliciwch yma.

Roedd nifer fawr o sylwadau a chwestiynau’n canolbwyntio ar effaith posib cynnydd mewn traffig ar yr ardal leol.  Roedd nifer o’r rhain yn datgan pryder ynglŷn â beth fyddai effaith cynnydd mewn traffig ac yn mynd ymlaen i dynnu sylw at ffyrdd, cyffyrdd, strydoedd a/neu bentrefi penodol yr oeddent yn credu oedd angen sylw arbennig.  Roedd yr angen cyffredinol am wella trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal hefyd yn thema gyffredin yn yr adborth.

Roedd nifer fawr o sylwadau a chwestiynau’n ymwneud a chyflogaeth, gyda llawer yn canolbwyntio ar y nifer a’r math o gyfleoedd allai fod ar gael i’r gymuned leol.  Cafwyd cydbwysedd rhwng y rhai oedd yn croesawu’r cyfleoedd a’r rhai oedd yn datgan amheuaeth ynglŷn â’r buddiannau yn sgil yr ailddatblygiad.   

Gwnaeth nifer o bobl sylwadau ar yr amgylchedd.  Roedd y rhain yn canolbwyntio’n bennaf ar y niwed posib y gallai’r datblygiad arfaethedig ei achosi i fywyd gwyllt a’r tirlun lleol a phryderon ynglŷn â llygredd sŵn, golau a thraffig. 

Roedd tai yn thema gyffredin arall yn yr adborth, yn arbennig lleoliad posib tai newydd a’r effaith y byddai tai newydd yn ei gael ar wasanaethau ac isadeiledd lleol.     

Os nad oeddech yn gallu mynychu’r arddangosfeydd, mae copïau o holl ddefnyddiau’r arddangosfa i’w gweld yn adran Newyddion Diweddaraf y Gymuned Leol ar y dudalen Newyddion.
   
Gweithdai a Grwpiau Diddordeb
     
Yn ystod mis Rhagfyr, cynhaliodd  tîm prosiect Sain Tathan ddau weithdy cyhoeddus yn canolbwyntio ar y pynciau Adnoddau Cymunedol a Thrafnidiaeth.  Roedd y gweithdai’n boblogaidd iawn gyda’r gymuned leol a budd-ddeiliaid eraill o Fro Morgannwg ac fe ddenwyd ymhell dros 100 o bobl.

Daeth dros 45 o bobl i’r Gweithdy ar Adnoddau Cymunedol oedd yn canolbwyntio ar y ddarpariaeth o adnoddau chwaraeon a hamdden fyddai ar gael i’r cyhoedd trwy ailddatblygiad MOD Sain Tathan.

Denodd y Gweithdy ar Drafnidiaeth bron i 70 o bobl.  Ymysg y pynciau a drafodwyd roedd pwysigrwydd sicrhau darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol, yr angen i sicrhau y byddai’r rhwydwaith ffyrdd yn gallu ymdopi gydag unrhyw gynnydd cysylltiol yn y traffig a sut y byddai traffig gwaith adeiladu’n cael ei reoli yn ystod y cyfnod adeiladu

Roedd y ddau weithdy’n gyfle i’r cyhoedd holi’r tîm prosiect ar wahanol agweddau o’r cynllun arfaethedig a chynnig eu syniadau eu hunain ynglŷn â’r hyn y dylid ei ystyried wrth i’r cynllun esblygu. 

Mae’r sylwadau a wnaed ym mhob gweithdy wedi eu crynhoi mewn dau adroddiad sydd wedi eu hystyried fel rhan o broses y prif gynllun. Yn ogystal, cyflwynwyd yr adroddiadau i’r awdurdod cynllunio lleol fel rhan o’r cais am gynllunio.

Mae dogfen ddilynol bellach ar gael i’w lawr lwytho sy’n edrych ar sut mae’r sylwadau a syniadau wedi eu hystyried a, ble’n berthnasol, yn dangos sut y maent wedi dylanwadu ar y prif gynllun.

Os nad oeddech yn gallu mynychu’r gweithdai neu os hoffech weld y dogfennau a nodir uchod, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Mae copiau caled o’r dogfennau hyn ar gael, cliciwch yma i ofyn am gopi.

Mae’r sylwadau a wnaed yn y ddau weithdy wedi eu crynhoi mewn dau adroddiad a fydd yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses cynllunio.  Yn ogystal, bydd yr adroddiadau yn cael eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol fel rhan o’r cais cynllunio.  Bydd dogfen ddilynol yn cael ei chynhyrchu cyn ail gam yr ymgynghoriad yn hwyrach yn 2009 fydd yn edrych ar sut y mae’r sylwadau a syniadau wedi cael eu hystyried a, ble bo hynny’n addas, yn dangos sut y maent wedi dylanwadu ar y prif gynllun esblygol.

Cliciwch yma i lawr lwytho copi o’r adroddiadau.  Mae copïau caled hefyd ar gael, cliciwch yma i ofyn am gopi.

Os nad oeddech yn gallu mynychu’r Gweithdai, cliciwch yma i weld copïau o’r holl ddefnyddiau perthnasol i bob digwyddiad.  

Grwpiau Diddordeb – Chwefror/Mawrth 2009

Yn dilyn y gweithdai, cynhaliwyd dau Grŵp Diddordeb yn hwyr ym mis Chwefror a chynnar ym mis Mawrth i edrych yn fanylach ar y pynciau Yr Amgylchedd a Lles Cymunedol.

Roedd Grŵp Diddordeb Yr Amgylchedd yn delio gydag amrywiaeth eang o bynciau yn cynnwys cynhyrchu ynni, ailgylchu, teithio gwyrdd, ecoleg a llygredd. Roedd y Grŵp Diddordeb Lles Cymunedol yn canolbwyntio ar faterion yn cynnwys cyflogaeth, diogelwch, yr amgylchedd hyfforddi, tai ac adeiladu.

Unwaith eto profodd y grwpiau diddordeb yn boblogaidd iawn gyda dros 100 o bobl yn mynychu dros ddwy noswaith. Agorwyd y nosweithiau gyda chyflwyniadau gan yr ymgynghorwyr arbenigol a roddodd wybodaeth fanwl ynglŷn â’u meysydd arbenigol. Dilynwyd hyn gan sesiwn holi ac ateb ble cafodd aelodau’r cyhoedd gyfle i holi cwestiynau penodol.

Fel gyda’r gweithdai, mae’r cyflwyniadau a chofnod o’r sylwadau a chwestiynau a drafodwyd yn y grwpiau diddordeb ar gael i’w lawr lwytho o’r wefan hon. Cliciwch yma i weld yr holl ddefnyddiau. Mae copïau caled hefyd ar gael os gofynnir amdanynt.

   
Cam Dau
- Newyddion Diweddaraf
     
Cam Dau – Newyddion Diweddaraf

Yn dilyn yr wythnos o arddangosfeydd ym mis Gorffennaf 2008, cynhaliodd tîm prosiect Sain Tathan ail rownd o arddangosfeydd ar ddiwedd Mawrth/dechrau Ebrill 2009. Roedd yr arddangosfeydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y prosiect, amlygu’r newidiadau allweddol sydd wedi eu gwneud i’r prif gynllun ers y rownd ddiwethaf o arddangosfeydd a dangos sut mae barn y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill wedi ei ystyried.

Dechreuodd y rownd hon o ymgynghori gyda rhagolwg i randdeiliaid yng Nghlwb Golff Sain Tathan oedd yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau gan gynrychiolwyr o Metrix, y Weinyddiaeth Amddiffyn a Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynulleidfa o randdeiliaid o ar draws y Fro. Yn dilyn hyn cynhaliwyd arddangosfeydd cyhoeddus yn Sain Tathan, Llanilltud Fawr, Y Bontfaen a’r Barri gyda dros 200 o bobl yn mynychu dros y pedwar diwrnod. Roedd paneli arddangos, mapiau, cynlluniau a delweddau symudol 3D ar gyfrifiadur yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r Coleg Technegol Amddiffyn, y Parc Busnes Awyrofod, y seilwaith cefnogi a thai. Roedd cynrychiolwyr o Metrix, Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn ac ymgynghorwyr arbenigol eraill ar gael i ateb cwestiynau penodol a darparu manylion ynglŷn â phob agwedd o’r prosiect. Cliciwch yma i weld y defnyddiau oedd ar gael yn yr arddangosfa.

Roedd yr arddangosfeydd yn galluogi’r tîm prosiect i ddangos sut mae barn y cyhoedd a rhanddeiliaid, a leisiwyd mewn arddangosfeydd blaenorol, gweithdai, grwpiau diddordeb a thrwy gyfrwng ffurflenni adborth, wedi ei ystyried a ble’n bosib wedi effeithio ar y cynlluniau datblygedig. Roedd hefyd yn rhoi cyfle pellach i’r tîm prosiect gipio barn y cyhoedd cyn cyflwyno’r cais am gynllunio i Gyngor Bro Morgannwg ym mis Mai 2009.

Cafwyd sgyrsiau adeiladol trwy gydol yr wythnos ac roedd y tîm prosiect yn hynod o falch gyda’r presenoldeb cyffredinol. Fel gyda’r arddangosfeydd yn ystod Cam Un, roedd trafnidiaeth yn bwnc hynod o gyffredin a chafwyd llawer o drafodaethau ynglŷn â ffyrdd a chyffyrdd penodol, yn ogystal â meysydd i’w gwella. Roedd y lleoliadau posib ar gyfer tai newydd hefyd yn bwnc trafod allweddol i nifer o bobl.

I’r rhai hynny nad oeddent yn gallu mynychu’r arddangosfa, mae’r holl ddefnyddiau i’w gweld yn adran Newyddion Diweddaraf y Gymuned ar y dudalen Newyddion.

   
Ymgynghoriad Statudol
     
Cyngor Bro Morgannwg – Ymgynghoriad Statudol

Cafodd y cais am gynllunio ar gyfer y Coleg Technegol Amddiffyn a’r Parc Busnes Awyrofod eu cyflwyno i Gyngor Bro Morgannwg ym mis Mai 2009. Fel rhan o’r broses statudol bydd y Cyngor yn ymgymryd ag astudiaeth 16 wythnos gynhwysfawr o’r cynigion yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus pellach ble y gwahoddir y gymuned leol a rhanddeiliaid i roi adborth yn uniongyrchol i’r Cyngor ar y cynlluniau. Disgwylir penderfyniad ar y ceisiadau am gynllunio, fydd yn cael ei wneud gan Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor, yn ystod mis Medi 09.

   
Cysylltwch â ni
     
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ail ddatblygiad neu unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o’r dulliau isod:

Ffoniwch ni: 0845 618 0016

Ysgrifennwch atom: Camargue Group Ltd,
Freepost RRKG-AZTG-JLJX, St Athan Consultation
Eagle Tower, Montpellier Drive, Cheltenham, GL50 1TA.

E-bostiwch ni: enquiries@st-athanconsultation.co.uk

Nodwch: Bydd eich manylion ond yn cael eu defnyddio ar gyfer cyfathrebiaeth yn ymwneud a’r datblygiad yn Sain Tathan. Ni fyddant yn cael eu defnyddio at unrhyw ddibenion marchnata eraill.

 

 

 

 

   
     
Os hoffech anfon eich sylwadau am unrhyw agwedd ar waith Sain Tathan, cliciwch yma